Mae Adolygiadau Ymarfer Oedolion yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o adnabod heriau systemig a chyfleoedd i ddysgu ym maes diogelu. Mae’r adolygiad thematig hwn o 25 o Adolygiadau Ymarfer Oedolion (a oedd yn ymdrin â digwyddiadau rhwng 2016 a 2022) yn taflu goleuni ar y tueddiadau allweddol, yr heriau/rhwystrau a’r cyfleoedd i ddysgu’n amlasiantaethol drwy nodi enghreifftiau o arfer da.



