Dydd Iau 27 Hydref // 10:00-11:30am
Ymunwch â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i archwilio’r camau sy’n cael eu cymryd mewn ymateb i’w hadroddiad diweddaraf – ‘Gwella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau i ddynion hŷn sy’n cael eu cam-drin yn ddomestig’ – a thrin a thrafod sut gallwn weithio gyda’n gilydd i helpu i sicrhau bod dynion hŷn sy’n cael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Yn y digwyddiad, byddwch yn clywed gan ddynion sydd wedi goroesi camdriniaeth am eu profiadau, a’r rhwystrau y gwnaethant eu hwynebu wrth roi gwybod am gam-drin a chwilio am help.
Bydd panel arbenigol hefyd yn ymuno â’r Comisiynydd i nodi sut gallwn chwalu’r rhwystrau hyn, a ffyrdd ymarferol o wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i ddynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o hynny.
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw