Gyda’n gilydd gallwn atal trais yn erbyn merched a genethod. Mae’n Dechrau gyda Dynion. Gwraidd trais yn erbyn merched a genethod yw nodweddion gwrywaidd niweidiol. Gan ddechrau gyda dynion, mae’n rhaid i ni ymdrin â’r agweddau a’r ymddygiad sy’n cyfrannu at yr ofn o drais i ferched yn eu bywydau bob dydd.
Ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn 2024, rydym yn annog dynion i fod yn atebol i ferched ac i’w gilydd, fel y gallwn ddylanwadu ar newid cadarnhaol mewn ymddygiad i drawsnewid diwylliannau niweidiol. Mae cydraddoldeb rhywedd yn hanfodol i wneud i’r newid diwylliannol hwn ddigwydd. Mae’n bosibl cyflawni cydraddoldeb rhywedd os bydd dynion a bechgyn yn deall ac yn cymryd eu cyfrifoldeb fel cynghreiriaid. Gallwn atal trais yn erbyn merched a genethod. Mae’n Dechrau gyda Dynion.



