Dull arloesol mewn llysoedd teulu er mwyn rhoi gwell cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig

Pauline Bird

Bydd dioddefwyr cam-drin domestig yn derbyn gwell cefnogaeth fel rhan o ddull newydd sy’n cael ei dreialu mewn llysoedd teulu.

  • lansiwyd cynllun peilot mewn llysoedd teulu yng Ngogledd Cymru a Dorset er mwyn gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig
  • ei nod yw gwella rhannu gwybodaeth fel nad oes rhaid i ddioddefwyr ailadrodd profiadau trawmatig 
  • rhan o gamau gweithredu pendant y Llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â thrais domestig a gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr

Mae’r cynllun peilot newydd sydd wedi’i lansio mewn llysoedd teulu yng Ngogledd Cymru a Dorset yn anelu at wella rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau megis yr heddlu, awdurdodau lleol a’r llysoedd.  Gallai hyn gynnwys gweithwyr cam-drin domestig proffesiynol lleol yn rhannu asesiadau risg â’r llys, fel nad oes rhaid i ddioddefwyr a phartïon fynd trwy’r trawma o ailadrodd eu profiadau yn ddiangen yn yr achos.

Yn hollbwysig, bydd hefyd yn rhoi hwb i lais y plant ar bob cam o’r broses, gan sicrhau eu bod nhw’n teimlo fod ganddynt lais a bod eu barn yn cael ei ystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch eu dyfodol.  Bydd yn arwain at blant yn cael mwy o gyfle i egluro sut maen nhw’n teimlo ac, yn dilyn gorchymyn llys, i fynegi a yw’n gweithio iddynt.   

Mae’r cynllun peilot yn gweithio trwy ganiatáu i farnwyr adolygu gwybodaeth a gasglwyd a gofyn am ragor o ddogfennau cyn i’r achos fynd i’r llys.  Mae’n osgoi trafod amgylchiadau’r achos yn  y llys, sy’n aml yn gallu gwaethygu gwrthdaro rhwng rhieni.  Bydd y cynllun peilot hefyd yn annog achosion i fod yn llai gwrthwynebol fel y gellir rhoi mwy o bwyslais ar ymchwilio a mynd i’r afael â cham-drin domestig ac ymddygiadau niweidiol eraill – yn hytrach na chaniatáu gwrthdaro yn y llys. 

Gadael sylw