Po fwyaf yw cyfres Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru o’r Sesiynau Briffio 7 Munud yna po fwyaf y gallwn godi ymwybyddiaeth a chefnogi cydweithwyr ymhob man i wneud diogelu yn fater perthnasol i bawb.
Mae dysgu am saith munud yn bosibl yn y rhan fwyaf o leoliadau ac mae’r hyn mae rhywun yn ei ddysgu’n fwy cofiadwy gan ei fod yn syml a heb ei gymylu gan bwysau a materion eraill.
Dros y tair blynedd ddiwethaf mae Uned Fusnes Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi llunio dros 120 o’ Sesiynau Briffio 7 Munud’.
Rydym yn gofyn i Ymarferwyr ar draws Gogledd Cymru i gysylltu â’r Uned Fusnes regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk – a chyflwyno eich briff 7 munud drafft ar bwnc yn ymwneud â Diogelu y gallwn ei rannu ar draws Gogledd Cymru.


