Gostyngiad yn nifer Adroddiadau Diogelu yn ystod Covid-19

Pauline Bird

Mae pob Bwrdd Diogelu ledled Cymru wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am ostyngiad sylweddol yn nifer yr adroddiadau diogelu y mae Awdurdodau Lleol wedi’u cael yn ystod y cyfnod cloi hwn.

Bydd Prif Weinidog Cymru hefyd yn tynnu sylw at y tueddiad hwn sy’n peri pryder mewn araith yr wythnos hon. Tynnwyd sylw at nifer o resymau posibl dros y gostyngiad sylweddol hwn.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn gofyn i bawb o fewn y rhanbarth i ofalu am ei gilydd er mwyn helpu’r rheini a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae hon yn neges sydd yn berthnasol bob amser, ond yn awr yn fwy nag erioed, mae angen amddiffyn pobl o bob oed

Mae neges fideo Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru “ Gweld Rhywbeth – Dweud Rhywbeth” yn arbennig o berthnasol ar hyn o bryd. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i edrych ar y fideo a’i rannu gyda’r holl gydweithwyr perthnasol ac aelodau’r cyhoedd.

Mae diogelu yn fusnes i bawb

Gweld Rhywbeth – Dweud Rhywbeth

Mae Diogelu yn Busnes i Bawb

Leave a Comment