Gwefan newydd yn helpu pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin i ddod o hyd i’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt

Pauline Bird

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio gwefan newydd i helpu pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu’r rheini sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, i ddod o hyd i’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Gan ddefnyddio’r wefan newydd gall pobl hŷn, yn ogystal â’u ffrindiau a’u teuluoedd, chwilio yn rhwydd am wasanaethau a chymorth yn eu hardal leol a all eu helpu os ydynt yn cael eu cam-drin, os ydynt mewn perygl o gael eu cam-drin, neu’n poeni am rywun arall. Gallant hefyd ddod o hyd i fanylion mudiadau cenedlaethol allweddol a’r gwasanaethau mwy arbenigol sydd ar gael. Mewn rhai achosion, gall y rhain gynnig cefnogaeth bob awr o’r dydd. https://abusesupportdirectory.wales/

Leave a Comment