Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Pauline Bird

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob Bwrdd Diogelu fabwysiadu GweithdrefnauDiogelu Newydd Cymru Gyfan fel y bwriadwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall efallai na fydd yn bosibl gweithredu’r cynllun yn llawn fel y bwriadwyd yn wreiddiol o fewn yr amgylchiadau presennol ac rydym yn disgwyl y bydd hyn yn parhau’n ansicr am wythnosau a misoedd i ddod.

Yn unol â’r cais gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn gweithio ar sicrhau bod
egwyddorion allweddol Gweithdrefnau Diogelu Newydd Cymru Gyfan yn cael eu dilyn.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol i sicrhau bod egwyddorion allweddol Gweithdrefnau Diogelu Newydd Cymru Gyfan yn cael eu dilyn. Ni yw’r unig Fwrdd yng Nghymru hyd yma sydd wedi cyflwyno gweithdai i bartneriaid aml-asiantaeth. Mae’r ap wedi cael ei rannu ar draws y rhanbarth fel rhan o’r gweithdai amlasiantaeth a gynhaliwyd.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a’r canllawiau cydweithio ar ymdrin ag achosion unigolion yn darparu fframwaith cyfreithiol clir ar gyfer asiantaethau i ddiogelu unigolion sydd mewn perygl.

Er mwyn cefnogi’r broses o roi’r gweithdrefnau ar waith, byddwn yn gofyn i isgrwpiau’r Bwrdd ddechrau nodi pecynnau gwaith ychwanegol sydd eu hangen i gefnogi ymarferwyr wrth iddynt weithio gyda’r gweithdrefnau.
Ym mhob cyfarfod o’r Bwrdd, darperir diweddariad ynghylch cynnydd pob asiantaeth o ran gweithredu’r gweithdrefnau.

Os ydych wedi nodi unrhyw newidiadau arfaethedig i weithdrefnau diogelu Cymru gyfan, anfonwch e-bost at: info@safeguarding.wales

Leave a Comment