Roedd Ymgyrch Jasmine yn ymchwiliad hanesyddol gan Heddlu Gwent i gyhuddiadau o esgeulustod mewn nifer o gartrefi nyrsio yn Ne Ddwyrain Cymru o 2005 i 2013. Dechreuodd o ganlyniad i glwstwr o farwolaethau yng nghartrefi gofal Gwent a gysylltwyd â briwiau pwyso. Roedd yn destun adolygiad annibynnol gan Margaret Flynn a gyhoeddodd ei hadroddiad In Search of Accountability, adolygiad o’r esgeulustod o bobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal a ymchwiliwyd fel Ymgyrch Jasmine, ym mis Mai 2015. Adolygiad.
Ym mis Ionawr 2021, cychwynnodd cwestau i farwolaethau saith o bobl yr ystyriwyd eu hachosion fel rhan o Ymgyrch Jasmine. Daeth y crwner i’r casgliad fod esgeulustod wedi cyfrannu at farwolaethau pump o’r bobl. Canfuodd fod asiantaethau’r wladwriaeth yn canolbwyntio gormod ar brosesau a’u bod wedi colli cyfleoedd i weithredu’n gynt.
Ym mis Rhagfyr 2021, roedd AGC, CBSC, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso digwyddiad ar-lein i ddysgu ac edrych yn ôl ar Ymgyrch Jasmine ar gyfer AGC, staff bwrdd iechyd ac awdurdod lleol yn ardal Gwent. Cafodd y sesiwn ei gadeirio gan Dr Ruth Hussey a’i recordio.
Rydym yn rhannu’r gweminar a recordwyd a briff saith munud gyda chi.


