Helpwch ni i ddiogelu ein cymunedau rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Pauline Bird

Updated on:

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn gofyn i bawb edrych ar ôl ei gilydd er mwyn helpu’r rheiny sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae’r neges hon yn berthnasol byth a beunydd ond rŵan, yn fwy nag erioed, mae ar bobl o bob oed angen eu diogelu.

“Yn sgil y coronafeirws rydym ni’n wynebu sefyllfa nad ydym ni erioed wedi’i gweld o’r blaen ac mae hunan-ynysu yn un o’r prif negeseuon a chyngor sy’n cael ei ddarparu gan y Llywodraeth.  

“Er y bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y feirws, yn anffodus bydd hefyd yn golygu y bydd plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl yng ngogledd Cymru mewn hyd yn oed mwy o berygl o gamdriniaeth ac esgeulustod.

“Byddwch yn wyliadwrus ac edrychwch ar ôl eich ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion ac os ydych chi’n gweld unrhyw arwydd o unrhyw fath o niwed rhowch wybod i’ch tîm diogelu lleol.”

Os oes gennych chi bryderon am blentyn:

Ynys Môn 01248 725888(gwasanaeth y tu allan i oriau) 01248 353551

Conwy 01492 575111 (gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa) 01492 515777

Sir Ddinbych 01824 712200 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 0345 053 3116

Sir y Fflint 01352 701000 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 0345 0533116

Gwynedd 01766 772577 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 01248 353551

Wrecsam 01978 292039 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 0345 053 3116

Os oes gennych chi bryderon am oedolyn:

Ynys Môn 01248 725752 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 01248 353551

Conwy 0300 456 1111 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 01492 515777

Sir Ddinbych 0300 4561000 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 0345 053 3116

Sir y Fflint 03000 858858 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 0345 0533116

Gwynedd 01766 772577 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 01248 353551

Wrecsam 01978 292066 (gwasanaeth y tu allan i oriau) 0345 053 3116

Gadael sylw