Lansio dull cenedlaethol newydd o wella diogelu yng Nghymru drwy ap symudol

Pauline Bird

11 Tachwedd 2019

Cymru yw gwlad gyntaf y DU i gyflwyno set unigol o ganllawiau diogelu i helpu i amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg trwy lansio ap symudol Gweithdrefnau Diogelu Cymru mewn digwyddiad yng Nghaerdydd heddiw.

Bydd Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a lansiwyd ar ddechrau Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn safoni arfer diogelu ledled Cymru a rhwng asiantaethau a sectorau.

Bydd y gweithdrefnau yn nodi ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gydag oedolion neu blant yr hyn sydd i’w wneud os oes amheuaeth bod unigolyn yn dioddef, neu’n wynebu risg o ddioddef cam-drin, esgeulustod neu ffurfiau eraill ar niwed.

Yn unigryw, ni fydd unrhyw gopi argraffedig o’r gweithdrefnau. Yn hytrach, byddant ar gael i bawb ar-lein, naill ai trwy wefan neu app symudol Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Dywedodd Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Mae heddiw yn garreg filltir ar gyfer partneriaeth diogelu ac i’r rhai y mae’n eu cefnogi ledled Cymru. Mae lansio’r gweithdrefnau hyn yn gam mawr ymlaen ac mae’n ategu ein hymrwymiad i hyrwyddo’r hawl sydd gan blant ac oedolion mewn perygl yng Nghymru i fod yn ddiogel.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer datblygu’r gweithdrefnau a hefyd ar gyfer hyfforddiant ac adnoddau dysgu i ategu’r gwaith o’u gweithredu.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob partner am ei gyfraniad at y swm sylweddol o waith sydd wedi’i wneud.”

Leave a Comment