Lansio’r Canllawiau Diogelu Plant Anabl

Pauline Bird

Mae’r canllawiau newydd hyn wedi’u cadarnhau gan y Bwrdd.

Mae’r canllawiau ymarfer hyn yn egluro bod gan blant anabl yn union yr un hawliau dynol i fod yn ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod, i gael eu hamddiffyn rhag niwed a chyflawni canlyniadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 â phlant nad ydynt yn anabl. Fodd bynnag mae angen gweithredu ychwanegol ar blant anabl. Mae hyn oherwydd eu bod yn fwy diamddiffyn o ganlyniad i agweddau negyddol am blant anabl a mynediad anghyfartal i wasanaethau ac adnoddau, ac oherwydd bod ganddynt anghenion ychwanegol o bosibl yn ymwneud â nam corfforol, synhwyraidd, gwybyddol a/neu gyfathrebu.

Polisïau a Gweithdrefnau – Plentyn

 

Leave a Comment