Lansio’r Safonau Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol

Pauline Bird

Updated on:

Wales Safeguarding Procedures

Ar 14 Tachwedd bydd Julie Morgan AoS yn cyflwyno lansiad Safonau Dysgu a Datblygu Cenedlaethol cyntaf Cymru.

Ymunwch y digwyddiad lansio rhithiol

Bydd panel o arbenigwyr diogelu o bob cwr o Gymru yn ymuno â’r Dirprwy Weinidog. Bydd y digwyddiad lansio awr o hyd yn dechrau am 10am. Caiff y digwyddiad rhithwir, a gynhelir gan ddefnyddio Teams Live, ei gadeirio gan Jane Randall, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru.

Bydd y Safonau’n nodi’r disgwyliadau ar gyfer gwybodaeth, sgiliau, agweddau a gwerthoedd i bobl sy’n gweithio gydag oedolion a phlant a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin, niwed neu esgeulustod ac sy’n garreg filltir arwyddocaol yn natblygiad arferion diogelu yng Nghymru.

Bydd y Cadeirydd yn arwain panel o arweinwyr diogelu o’r sectorau statudol a gwirfoddol wrth drafod sut bydd y safonau diogelu yn gwella ymarfer.

Bydd Lance Carver, Cadeirydd Bwrdd Gweithdrefnau Diogelu Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg, hefyd yn siarad i gyflwyno’r safonau.

Cofrestrwch nawr i fod yn rhan o lansiad safonau dysgu a datblygu cenedlaethol cyntaf erioed Cymru.

Social Care Wales Logo

Gadael sylw