Llywodraeth Cymru ymgyrch Galwa Nawr.

Pauline Bird

Rhod Gilbert ydi llais yr ymgyrch a bydd eich gorsaf radio Heart lleol yn ei darlledu’n rheolaidd. Mae’r neges yn annog pobl i gysylltu â’u gwasanaethau cymdeithasol lleol os ydyn nhw’n poeni am unrhyw un all fod mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed. Fe allwch chi hefyd ffonio 101 neu, mewn argyfwng, 999.   

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn gofyn i bawb yn y rhanbarth i ofalu am ei gilydd er mwyn helpu’r rhai hynny a all fod mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae hon yn neges sy’n berthnasol drwy’r amser ond rŵan, yn fwy nag erioed, mae ar bobl o bob oed angen eu gwarchod ac felly dylai unrhyw un sy’n poeni am unrhyw un arall alw’r gwasanaethau cymdeithasol.

#MaketheCallWales #GalwrAnawr 

Leave a Comment