Mae 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i hawliau plant yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd pob math o gosbi corfforol yn anghyfreithlon diolch i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru. Bydd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn dileu amddiffyniad cyfreithiol hynafol trwy wahardd cosbi corfforol i blant pan ddaw i rym yng Nghymru ar 21 Mawrth 2022.
I gychwyn yr ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ledled y wlad, bydd fan hysbysebu Stopio Cosbi Corfforol yn ymweld â chyrchfannau twristiaeth allweddol ledled gogledd Cymru yn ystod mis Awst.
Gan ymweld â dros 40 o leoliadau dros wyliau haf yr ysgol, mae’r fan wedi’i chynllunio i godi ymwybyddiaeth trigolion lleol yn ogystal ag ymwelwyr â Chymru o’r newid sydd ar ddod yn y gyfraith.
Bydd y fan yn y lleoliadau canlynol yn ystod mis Awst:
• Dydd Mawrth 3 Awst: Rhyl, Llandudno, Bae Colwyn
• Dydd Mercher 4 Awst: Zipworld, Zipworld Fforest, Adventure Parc Snowdonia
• Dydd Iau 5 Awst: Bangor, Caernarfon, Ynys Môn
• Dydd Gwener, 6 Awst: llanberis, Aberdaron, Abersoch, Pwllheli
• Dydd Iau 19 Awst: Wrecsam a’r Wyddgrug
• Dydd Gwener 20 Awst: Rhyl, Prestatyn, traeth Talacre
• Dydd Sadwrn 21 Awst: Conwy, Welsh Mountain Zoo, Pier Llandudno, Cyffordd Llandudno
• Dydd Sul 22 Awst: Zipworld, Adventure Parc Snowdonia, Porthmadog
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw