Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn amlygu perygl uwch o gam-drin domestig yn ystod Cwpan y Byd yn Qatar.
Mae gwaith ymchwil wedi amlygu cynnydd yn nifer yr oedolion a phlant wnaeth brofi trais a chamdriniaeth gartref yn ystod y twrnamaint diwethaf.
Canfu dadansoddiad NSPCC fod nifer y galwadau i’n Llinell Gymorth am gam-drin domestig yn ystod twrnamaint diwethaf Cwpan pêl-droed y Byd wedi cynyddu draean (33%) o’r cyfartaledd misol, gan gyrraedd mwy na 1,000.
Gallai straen emosiynol uwch, alcohol a betio ar y gemau arwain at ddigwyddiadau gartref dros y pedair wythnos nesaf.
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw