Olrhain cysylltiadau:

Pauline Bird

Byddwch yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o seibr-ddiogelwch, ffug-negeseuon, gwe-rwydo neu dwyll. Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth ariannol, manylion banc, cyfrineiriau nac unrhyw ddata arall ac eithrio’r gwybodaeth a nodir uchod fel rhan o’r broses olrhain cysylltiadau. Os oes gennych unrhyw amheuon yna ni ddylech roi’r wybodaeth. Ni fydd swyddog olrhain cysylltiadau byth yn:

  • gofyn i chi ddeialu rhif cyfradd premiwm i siarad â nhw (er enghraifft, y rhai sy’n dechrau gyda 09 neu 087).
  • gofyn i chi wneud unrhyw fath o daliad neu brynu cynnyrch o unrhyw fath.
  • gofyn am unrhyw fanylion am eich cyfrif banc.
  • gofyn am eich hunaniaethau cyfryngau cymdeithasol neu fanylion mewngofnodi, neu rai eich cysylltiadau.
  • gofyn i chi am unrhyw gyfrineiriau neu rifau pin, neu ofyn i chi osod unrhyw gyfrineiriau neu rifau pin dros y ffôn.
  • datgelu unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol neu feddygol i’ch cysylltiadau.
  • darparu cyngor meddygol ar drin unrhyw symptomau COVID-19 posibl.

https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-eich-cwestiynau#section-43134

Leave a Comment