Pryderon cynyddol ynghylch cau cartrefi gofal

Pauline Bird

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe yn chwilio am reolwyr cartrefi gofal a Chomisiynwyr Awdurdodau Lleol / GIG ac aelodau Byrddau Diogelu Rhanbarthol i gymryd rhan mewn arolwg sy’n edrych ar sut mae’r Canllawiau Pryderon Cynyddol presennol ar gyfer Cau Cartrefi Gofal yng Nghymru (2009) yn cael ei ddeall a’i ddefnyddio’n ymarferol a’r risgiau a berir gan COVID-19. Caiff yr ymchwil ei chymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe. Bydd yr arolwg yn cymryd oddeutu 15 munud i’w gwblhau.

Os ydych chi’n Gomisiynydd Awdurdod Lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol neu’n aelod o Ddiogelu Rhanbarthol dilynwch y ddolen hon https://swanseachhs.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_8v6UrHXqCNm9EUZ

Leave a Comment