Rhybudd Cynnar – Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Dwyll 2021

Pauline Bird

Bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cefnogi Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Dwyll 2021, a fydd yn cael ei chynnal o 14 tan 27 Mehefin. Mae’r ymgyrch flynyddol yn ymwneud â chreu rhwydwaith o ddinasyddion hyderus ac #YmwybodolODwyll sy’n gallu adnabod twyll, rhoi gwybod amdano i’r asiantaeth briodol a siarad am eu profiadau i helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o dwyll.

Mae pandemig y coronafeirws wedi’i gwneud hi’n bwysicach fyth i rymuso’r cyhoedd i ddiogelu eu hunain rhag twyll. Llynedd, fe welsom ni gynnydd yn nifer yr achosion o dwyll yn ymwneud â’r coronafeirws, wrth i dwyllwyr gymryd mantais ar sefyllfa ansicr y pandemig. Wrth i ni symud tuag at adferiad economaidd mae achosion o dwyll yn parhau i fod yn fater cyffredin, gyda thwyllwyr yn manteisio ar effaith y pandemig ar bobl.

Leave a Comment