Mae yna lawer o wahanol fathau, gan gynnwys:
- Banciau
- Pensiynau a Buddsoddiadau
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)
- Galwadau am iawndal
- Trwsio cyfrifiadur
- Gwarchod rhag sgamiau
- Rhifau ffôn
Sut allaf osgoi sgamiau fôn a galwa?
Gallwch atal neu rwystro rhai galwadau diwahoddiad. Rhowch gynnig ar y pethau syml yma:
• Siaradwch gyda’ch darparwr ffôn i weld pa wasanaethau preifatrwydd eraill a gwasanaethau atal galwadau sydd ar gael, ond efallai y bydd angen i chi dalu am rai o’r gwasanaethau hyn.
Cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn (TPS) – mae’n rhad ac am ddim ac mae’n gadael i chi ddewis rhwystro unrhyw alwadau telewerthu byw diwahoddiad. Dylai hyn ostwng nifer y galwadau diwahoddiad y byddwch yn eu cael ond mae’n bosibl na fydd pob sgamiwr yn cael ei atal. I gofrestru ffoniwch 0345 070 0707 neu ewch i http://www.tpsonline.org.uk
Os oes gennych ffôn clyfar, gallwch ddefnyddio’r gosodiadau ar y ffôn i atal rhifau di-eisiau. Os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn, gallwch alw heibio i’ch siop ffonau symudol leol am gymorth.
Mae nwyddau ar gael i atal rhai galwadau. Mae rhai cynghorau lleol yn darparu atalwyr galwadau trwy eu gwasanaethau safonau masnach.