Strategaeth newydd i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Ngogledd Cymru

Pauline Bird

Mae Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i strategaeth newydd i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Meddai Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, “Mae gan Ogledd Cymru enw da am weithio fel rhanbarth i gyrraedd nod cyffredin ac mae’r strategaeth hon yn ymgorffori set newydd o ymrwymiadau i weithio’n wahanol er mwyn atal trais a cham-drin domestig. Mae hon yn flaenoriaeth i bob un ohonom. A fyddech cystal â darllen y strategaeth a meddwl am y pethau y gallwch chi, eich sefydliad a’ch cymuned broffesiynol eu gwneud.”

Gellir lawrlwytho’r strategaeth isod.

North-Wales-VAWDASV-Strategy-Cym

Leave a Comment