Caiff Gweithdrefnau Diogelu Cymru eu cyhoeddi ar 11 Tachwedd 2019 a byddant ar gael i bawb eu gweld o’r dyddiad hwn drwy’r wefan swyddogol neu drwy lawrlwytho ap symudol Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Bydd angen wedyn i bob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol fabwysiadu’r gweithdrefnau’n swyddogol. Ar y pwynt hwn, cânt eu hardystio i’w defnyddio ym mhob rhanbarth.
Bydd angen i bob bwrdd drefnu ei amserlen ei hun ar gyfer mabwysiadu’r gweithdrefnau, ond disgwylir y caiff Gweithdrefnau Diogelu Cymru eu hystyried gan bob un cyn diwedd mis Ionawr 2020.


