Trefniadau Diogelu Rhyddid wedi’u gohirio tan Ebrill 2022

Pauline Bird

Ar 16 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd y Llywodraeth na fyddai’r Trefniadau Diogelu Rhyddid yn dod i rym ar 1 Hydref 2020, ond yn hytrach ym mis Ebrill 2022. Mae wedi bod yn amlwg ers peth amser bod 1 Hydref nid yn unig yn uchelgeisiol ond yn amhosibl, felly croesewir yr eglurhad hwn.  Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog Gofal, Helen Whately, wrth y Senedd, er mai’r bwriad oedd dod â’r trefniadau i rym ar 1 Hydref 2020:

Mae bellach yn amlwg nad yw gweithrediad llwyddiannus yn bosibl erbyn mis Hydref eleni. Ein nod nawr yw sicrhau gweithrediad llawn o’r Trefniadau Diogelu Rhyddid erbyn mis Ebill 2022. Bydd rhai darpariaethau,  yn cynnwys hyfforddiant a swyddi newydd, yn dod i rym cyn y dyddiad hwnnw. Byddaf yn parhau i ddiweddaru’r sector a budd-ddeiliaid o ran amseroedd.

Bydd y Llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau drafft a’r Cod Ymarfer ar gyfer y Trefniadau Diogelu Rhyddid. Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, gan ganiatáu digon o amser i’r rhai hynny sydd wedi’u heffeithio, yn cynnwys y rhai hynny ag anableddau dysgu, allu ymgysylltu’n gywir.

Bydd ar y sector angen amser yn dilyn cyhoeddiad y Cod terfynol i baratoi ar gyfer gweithredu. Byddwn yn rhoi digon o amser i’r sector baratoi ar gyfer y system newydd i sicrhau gweithrediad llwyddiannus. Rwyf yn ystyried cyfnod o oddeutu chwe mis i baratoi.

Leave a Comment