Mae digwyddiadau a throseddau sy’n cael eu targedu tuag at unigolyn oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag at eu hanabledd, hil/ ethnigrwydd, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsrywiol yn cael eu dosbarthu yn ddigwyddiadau neu droseddau casineb. Mae ymchwil yn dangos nad yw dros 60% ohonynt yn cael eu hadrodd i’r heddlu.
Y diffiniad o Drosedd Casineb ydi:
Unrhyw ddigwyddiad trosedd sydd yn drosedd, y mae’r dioddefwr neu unigolyn arall yn credu ei fod yn cael ei gymell gan ragfarn neu elyniaeth.
Bydd ymagwedd gyson a thosturiol tuag at ddioddefwyr a chymunedau yn:
- Gwella ymwybyddiaeth pobl o’r hyn na ddylid ei oddef – troseddau a digwyddiadau casineb.
- Gwella hyder pobl i roi gwybod am droseddau.
Yn syml mae’r mwyafrif o ddioddefwyr digwyddiadau a throseddau casineb eisiau i’r cwbl STOPIO.
SICRHEWCH – fod pob adroddiad o ddigwyddiadau a throseddau casineb yn cael eu cymryd o ddifri. Bydd yr effaith ar y dioddefwr yn sylweddol er y gallai’r digwyddiad ei hun ymddangos yn fychan.
CYMERWCH – weithred bositif er mwyn rhoi stop ar yr ymddygiad troseddol. Nid dioddefwyr troseddau/digwyddiadau casineb yw’r unig rai sydd yn gallu eu hadrodd i’r heddlu.
PEIDIWCH – Â thybio mai problem rhywun arall ydyw. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i ymladd Trosedd Casineb.


