Wcráin: Diogelu a chaethwasiaeth fodern

Pauline Bird

Wrth i ni weithio gyda’n gilydd i gefnogi’r ymateb dyngarol i Wcráin, gwyddom fod awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn delio â sefyllfaoedd a heriau newydd.

Mae gan Lywodraeth Cymru creu mewnflwch dynodedig i dderbyn cwestiynau ar:

  • Gwiriadau diogelu gan gynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
  • Cartrefi i Wcráin: canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern.
  • Cyngor ar ymateb i bryderon diogelu a chaethwasiaeth fodern.

Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn hefyd i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw faterion diogelu neu gaethwasiaeth fodern sy’n dodam unrhyw faterion diogelu neu gaethwasiaeth fodern sy’n dod i’r amlwg yn eich ardal.

Os oes pryderon brys ynghylch diogelu a chaethwasiaeth fodern

  • os credir fod person(au) o Wcráin mewn perygl o niwed uniongyrchol gan ddarpar noddwr sy’n lletya a bod angen ymyrraeth gan Lu Ffiniau’r DU, neu
  • pan fo plentyn/plant ar eu pen eu hunain wedi’u nodi.

Gall awdurdodau lleol gofnodi materion drwy Jira. Bydd angen iddynt ddewis y maes lle mae angen cymorth arnynt, a byddant yn cael eu cysylltu i dudalen Cofrestru Jira i gofnodi’r mater. Dim ond unwaith mae angen i ddefnyddwyr gofrestru. Mae angen tocyn Jira unigryw ar gyfer pob achos.

Gall awdurdodau lleol fewngofnodi drwy’r ddolen hon: https://digital.dclg.gov.uk/jira/servicedesk/customer/portal/11.

Neu, gallant ffonio’r Ddesg Ffôn: 0303 444 4445.

Oriau Agor: 9am – 6pm: dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc).

Ar ôl i’ch mater gael ei ddatrys, anfonwch adroddiad arno a’r canlyniad i flwch e-bost Llywodraeth Cymru isod.

Noder nad yw’r wybodaeth a amlinellir uchod yn disodli’r prosesau presennol ar gyfer rhoi gwybod am ddiogelu neu bryderon ynghylch unrhyw un sy’n cyrraedd Cymru o’r Wcráin. Rhaid i Awdurdodau Lleol gadw at Weithdrefnau Diogelu Cymru a dilyn y broses arferol ar gyfer adrodd am bryderon diogelu. Rhaid parhau i roi gwybod am yr holl bryderon diogelu fel arfer.Sut i roi gwybod am amheuaeth o gam-drin, niwed, neu esgeulustod (diogelu pobl) | LLYW.CYMRU

Cyswllt: Wcrain.Diogelu@llyw.cymru

Cartrefi i Wcráin: canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern | LLYW.CYMRU

Leave a Comment