Fel rhanbarth cytunodd Gogledd Cymru i ganolbwyntio ar Ddiogelu Oedolion gan fod Cynhadledd Plant eisoes yn cael ei threfnu ar gyfer mis Hydref. Bydd pob Awdurdod Lleol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau codi ymwybyddiaeth yn ystod yr wythnos hon, gyda digwyddiadau yn cael eu trefnu a’u cefnogi gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill. Bydd gwybodaeth ynglŷn â Cham-Drin Domestig, Masnachu Mewn Pobl, Caethweision Modern, Seibrdroseddu, Camfanteisio’n rhywiol ar blant ayb.
Gweler isod am ddigwyddiadau yn Conwy:
Dydd Llun 14 Tachwedd | 09:30 11:00 | Lansio protocol oedolion ar goll | Venue Cymru, Conwy | Darparwyr Cartref Gofal |
Dydd Llun 14 Tachwedd | 11:30 – 13.00 | Lansio protocol oedolion ar goll | Venue Cymru, Conwy | Gweithwyr Proffesiynol Aml-Asiantaeth |
Dydd Mercher 16 Tachwedd | 10:00-12:00 | Gweithdy Maethu ar y cyd â Barnardos (cam-fanteisio’n rhywiol ar blant) | Yr Interchange, Conwy | Gofalwyr Maeth |
Dydd Iau 17 Tachwedd | 10:00 13:00 | Cynhadledd Diogelu Oedolion – APR – ffactor cael gwared â’r ofn | Gwesty Kinmel Manor, Ffordd Llan San Siôr, Abergele | Ymarferwyr |
Dydd Gwener 18 Tachwedd | Yn y bore | Oedolyn mewn hyfforddiant risg | Clwyb Rugbi, Llandudno, Conwy | Darparwyr |
Dydd Gwener 18 Tachwedd | 13:30 – 15.30 | Agenda Diogelu Cenedlaethol – Beth yw Diogelu Rhai enghreifftiau o achos Oedolion Mewn Perygl Plant mewn Perygl Mathau o gam-drim Darlun lleol Adrodd am bryderon | Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos: David Lewis & Chris Walker | Myfyrwyr Lefel 4 AU Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd | 12:00 | Digwyddiad Codi Ymwybyddiaeth am Ddiogelu RGC 1404 v RFC Caerdydd | Parc Eirias, Bae Colwyn | Y Cyhoedd |
14 – 18 Tachwedd | Trwy’r wythnos | Negeseuon Diogelu Oedolion wedi eu cynnwys mewn newyddlenni staff | Conwy | Staff |
14 – 18 Tachwedd | Trwy’r wythnos | Arweinwyr Dynodedig yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ar draws adrannau | Conwy | Staff |
14 – 18 Tachwedd | Trwy’r wythnos | Neges Wythnos Diogelu Cenedlaethol ar sgriniau gliniadur | Conwy | Staff |
14 – 18 Tachwedd | Trwy’r wythnos | Canolfannau Hamdden ar draws CBSC – bydd staff yn gwisgo’r bathodyn ‘Rwy’n cefnogi Wythnos Diogelu’ a bydd gwybodaeth ar gael mewn canolfannau hamdden | Conwy | Staff a’r Cyhoedd |
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw