Wythnos Genedlaethol Diogelu – 14 – 18 Tachwedd 2016 – Sir y Flint

Bethan Jones

Fel rhanbarth cytunodd Gogledd Cymru i ganolbwyntio ar Ddiogelu Oedolion gan fod Cynhadledd Plant eisoes yn cael ei threfnu ar gyfer mis Hydref. Bydd pob Awdurdod Lleol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau codi ymwybyddiaeth yn ystod yr wythnos hon, gyda digwyddiadau yn cael eu trefnu a’u cefnogi gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill. Bydd gwybodaeth ynglŷn â Cham-Drin Domestig, Masnachu Mewn Pobl, Caethweision Modern, Seibrdroseddu, Camfanteisio’n rhywiol ar blant ayb.

Gweler isod am ddigwyddiadau yn Sir y Flint:

Dydd Mercher 16 Tachwedd 09:30 – 14.00 Stondin Gwybodaeth Codi Ymwybyddiaeth am Ddiogelu Marchnad, Yr Wyddgrug Y Cyhoedd
Dydd Iau 17 Tachwedd 10:00 – 14.00 Gweithdai Maethu ar y cyd â Barnardos (cam-fanteisio’n rhywiol ar blant) Plas Hafod, Gwernymynydd Gofalwyr Maeth
Dydd Gwener 18 Tachwedd 10:00 – 14:00 Stondin Gwybodaeth Codi Ymwybyddiaeth am Ddiogelu Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug Staff
14 – 18 Tachwedd Trwy’r wythnos Eitemau newyddion Infonet ar gyfer yr wythnos Sir y Fflint Staff

Gadael sylw