Wythnos Genedlaethol Diogelu – 14 – 18 Tachwedd 2016 – Wrecsam

Bethan Jones

Updated on:

Fel rhanbarth cytunodd Gogledd Cymru i ganolbwyntio ar Ddiogelu Oedolion gan fod Cynhadledd Plant eisoes yn cael ei threfnu ar gyfer mis Hydref. Bydd pob Awdurdod Lleol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau codi ymwybyddiaeth yn ystod yr wythnos hon, gyda digwyddiadau yn cael eu trefnu a’u cefnogi gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill. Bydd gwybodaeth ynglŷn â Cham-Drin Domestig, Masnachu Mewn Pobl, Caethweision Modern, Seibrdroseddu, Camfanteisio’n rhywiol ar blant ayb.

Gweler isod am ddigwyddiadau yn Wrecsam:

 

         
Dydd Mercher 16 Tachwedd Trwy’r dydd Stondin Gwybodaeth Codi Ymwybyddiaeth am Ddiogelu Ysbyty Maelor, Wrecsam Y Cyhoedd
Dydd Mawrth 15 Tachwedd Amser i’w gadarnhau Stondin Gwybodaeth Codi Ymwybyddiaeth am Ddiogelu Canolfan Gyswllt Wrecsam Y Cyhoedd, Defnyddwyr Gwasanaeth, Staff.
14 – 18 Tachwedd Trwy’r wythnos Erthygl yn y Cylchgrawn Cyswllt Wrecsam Y Cyhoedd
14 – 18 Tachwedd Trwy gydol yr wythnos Bydd taflenni a phosteri yn cael eu rhoi i fyny ym mhob swyddfa ALl, llyfrgelloedd a rhai archfarchnadoedd Wrecsam Staff / Y Cyhoedd
14 – 18 Tachwedd Trwy gydol yr wythnos Codi ymwybyddiaeth gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam

Gadael sylw