‘Mae diogelu yn fater i bawb’ yw’r neges allweddol i holl ddinasyddion Cymru wrth i Fyrddau Diogelu ar draws Cymru, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol baratoi i lansio Wythnos Ddiogelu Genedlaethol ym mis Tachwedd (dydd Lun 15 i ddydd Gwener 19).
Gan weithio gyda phartneriaid o’r maes iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, bwriad y Byrddau yw codi ymwybyddiaeth pawb o ystyr diogelu a’r nifer o sefyllfaoedd lle gall godi.