Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 9 – 16 Hydref 2021

Pauline Bird

Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn wythnos o weithredu sy’n digwydd yn y DU i annog awdurdodau lleol (yr heddlu a chynghorau), partneriaid allweddol a chymunedau a effeithiwyd gan droseddau casineb i gydweithio i fynd i’r afael â throseddau casineb lleol.

Troseddau casineb yw unrhyw droseddau sy’n cael eu targedu tuag at unigolyn oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag at eu hanabledd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd. Gellir cyflawni’r rhain yn erbyn unigolyn neu eiddo. Nid oes rhaid i ddioddefwr fod yn aelod o’r grŵp y mae’r elyniaeth wedi ei thargedu tuag ato; mewn gwirionedd, gall unrhyw un fod yn ddioddefwr troseddau casineb.

Os hoffech wybod mwy am yr wythnos ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac am droseddau casineb yn y DU, yna ewch i https://nationalhcaw.uk/

Leave a Comment