Wythnos Gweithredu Dementia 17 – 23 Mai 2021

Pauline Bird

Mae Wythnos Gweithredu Dementia yn symudiad cenedlaethol sy’n ysbrydoli pobl i weithredu i helpu pobl gyda dementia i fyw bywydau gwell.

Bydd un o bob tri o bobl sy’n cael eu geni yn y DU heddiw yn profi dementia yn ystod eu hoes, a bydd miliwn o bobl yn byw gyda dementia erbyn 2025, gan olygu mai triniaeth dementia yw un o’r materion mwyaf dybryd sy’n wynebu ein cymdeithas.

Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le, gan gynnwys yn y cartref ac mewn sefydliadau gofal.  Mae pobl gyda dementia yn hynod ddiamddiffyn gan y gallai’r clefyd eu hatal rhag rhoi gwybod am y gamdriniaeth neu ei gydnabod.  Efallai y byddant hefyd mewn perygl gyda dieithriaid sy’n cymryd mantais o’u nam gwybyddol.

Mae Wythnos Gweithredu Dementia yn ymwneud â gwneud ein rhan i sicrhau bod y DU yn le sy’n gyfeillgar i ddementia.

Strategaeth Ddementia Gogledd Cymru: https://www.northwalescollaborative.wales/regional-priorities/north-wales-dementia-strategy/

Cymdeithas Alzheimer https://www.alzheimers.org.uk/

Dementia UK: https://www.dementiauk.org/

Leave a Comment