Mae Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn ymgyrch codi ymwybyddiaeth. Pob blwyddyn mae Cymdeithas Alzheimer’s yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau ar draws y DU i annog pobl i weithredu ar ddementia.
Mae’r ymgyrch eleni yn cael ei chynnal o 16 i 22 Mai ac yn canolbwyntio ar ddiagnosis. Yn ôl ymchwil, mae camsyniadau o ran bod colli’r cof yn arwydd normal o heneiddio yn un o’r rhwystrau mwyaf sy’n atal pobl rhag derbyn diagnosis o ddementia.
Gyda chyfraddau diagnosis ar eu hisaf ers pum mlynedd, mae ar Gymdeithas Alzheimer’s eisiau annog y rheiny a all fod yn byw gyda dementia heb dderbyn diagnosis i gysylltu â nhw i dderbyn cyngor a chymorth ac i fagu nerth i gymryd y cam nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar eu gwefan yn https://www.alzheimers.org.uk/
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw