Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 9–15 Mai – Thema Swyddogol – Unigrwydd

Pauline Bird

Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol yn broblemau sy’n cynyddu, nid yn unig yma yng Nghymru ond drwy’r Deyrnas Unedig a thu hwnt i hynny. Erbyn hyn mae 1 o bob 5 o bobl yn teimlo’n unig a/neu’n ynysig yn gymdeithasol. Mae mwy ohonom yn deall erbyn hyn y gall hyn effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oed, ac am amryw o wahanol resymau. Maen nhw’n gallu cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl.

Gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol arwain at nifer o broblemau corfforol a seicolegol, gan gynnwys marw cyn pryd, problemau cysgu, pwysedd gwaed uchel, ansawdd bywyd gwael, mwy o risg o drawiad ar y galon a strôc, iselder a hunanladdiad. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod effaith unigrwydd o ran marwolaeth yn cyfateb i smygu 15 o sigaréts y dydd.

Leave a Comment