Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb: 8 – 15 Hydref 2022

Pauline Bird

Nod yr wythnos genedlaethol yw annog yr awdurdodau (Llywodraeth, yr Heddlu a Chynghorau), partneriaid allweddol a chymunedau sy’n dioddef troseddau casineb i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â digwyddiadau troseddau casineb lleol ar hyd a lled y DU. #NATIONALHCAW www.linktr.ee/nationalhcaw

Gall troseddau casineb effeithio ar bawb. Ers 2007 mae pum cymuned sy’n dioddef troseddau casineb wedi cael eu nodi a’u monitro ar hyd a lled y DU yn cynnwys:

  • Troseddau Casineb Anabledd
  • Troseddau Casineb Ffydd
  • Troseddau Casineb Hunaniaeth Rhywedd
  • Troseddau Casineb Hil
  • Troseddau Casineb Cyfeiriadedd Rhywiol

Yn dilyn llofruddiaeth Sophie Lancaster, mae Heddlu Manceinion Fwyaf wedi canfod Troseddau Casineb Is-ddiwylliant Amgen.

Mae ffurfiau eraill ar droseddau casineb yn dechrau cael eu trafod a’u hadnabod hefyd.

Digwyddiad casineb yw unrhyw weithred/ymddygiad sy’n cael ei ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn tuag at rywun oherwydd eu bod, neu eu bod yn ymddangos fel pe baen nhw’n aelodau o un o’r cymunedau mae troseddau casineb yn effeithio arnyn nhw.

Gall digwyddiadau casineb fod yn sarhaus ac yn gas ond nid ydyn nhw’n anghyfreithlon.

Mae trosedd casineb yn unrhyw weithred/ymddygiad troseddol sy’n cael ei ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn tuag at rywun oherwydd eu bod, neu eu bod yn ymddangos fel pe baen nhw’n aelod o un o’r cymunedau mae troseddau casineb yn effeithio arnyn nhw.

Gall pobl gael eu herlyn am droseddau casineb o dan ddeddfau’r DU.

Rhoi Gwybod am Droseddau Casineb

Mewn argyfwng, ffoniwch yr heddlu ar 999, dyma’r unig wasanaeth a all ymateb i drosedd casineb ar unwaith. Os nad yw’n argyfwng, gallwch gysylltu â’r heddlu gan ddefnyddio 101, sef y rhif ar gyfer sefyllfaoedd nad ydyn nhw’n argyfwng.

Os oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, efallai y byddai’n gyflymach i gyflwyno adroddiad am drosedd casineb nad yw’n argyfwng ar-lein.

Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb wedi sefydlu Report Hate Linktree sy’n rhestru llwybrau adrodd a gwasanaethau cymorth yn y DU. www.linktr.ee/reporthate

Gadael sylw