Ymgyrch #cadwdybellter yn cynyddu

Pauline Bird

Mae sefydliadau ledled Gogledd Cymru yn cydweithio i atgoffa pobl ifanc o’r angen am ymbellhau cymdeithasol yn y rhanbarth ac i helpu’r frwydr yn erbyn niferoedd cynyddol o achosion coronafeirws.

Arweinir ymgyrch #cadwdybellter y Cynulliad gan Gyngor Sir Ddinbych ac mae’n cael ei chefnogi gan holl gynghorau Gogledd Cymru, yr heddlu, y bwrdd iechyd a’r gwasanaeth tân ac achub, yn ogystal â Phrifysgolion Glyndŵr a Bangor a Choleg Cambria. Fe’i crëwyd mewn ymateb i dystiolaeth anecdotaidd a’r tueddiadau/pryderon cenedlaethol nad yw pobl ifanc bob amser yn glynu wrth gyngor ymbellhau cymdeithasol.

Mae’r gweithgaredd yn seiliedig ar gyfryngau cymdeithasol yn bennaf, gyda chyfres o negeseuon yn cael eu cyhoeddi gan y sefydliadau dan sylw a’u hail-rannu’n rheolaidd. Mae’r negeseuon hefyd yn cael eu rhannu â grwpiau perthnasol sy’n cyfathrebu’n bennaf â phobl ifanc, megis clybiau ieuenctid, ysgolion a grwpiau cymdeithasol.

Mae nifer o sefydliadau wedi cefnogi’r ymgyrch gyda fideos yn annog pobl ifanc i gadw pellter cymdeithasol ac i chwarae eu rhan yn yr ymdrechion parhaus. Mae’r fideos hyn hefyd yn cael eu rhannu, gyda’r bwriad o gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl. Bydd yr ymgyrch yn cael ei hadolygu ar ddiwedd mis Hydref.

Gadael sylw