Bil Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygiad)

Pauline Bird

Cafodd Bil Galluedd Meddyliol (Diwygiad) ei gymeradwyo gan Senedd y DU ar 24 Ebrill 2019, sy’n golygu y bydd yn dod yn gyfraith cyn bo hir (ar ôl iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol).

Mae’r ddeddfwriaeth yn diddymu’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a geir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 ac yn eu disodli gyda chynllun newydd o’r enw Trefniadau Amddiffyn Rhyddid.

Mae’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid yn sefydlu proses ar gyfer awdurdodi trefniadau i ddarparu triniaeth neu ofal sy’n arwain at amddifadu person (nad yw’n gallu cydsynio â’r trefniadau) o’i ryddid, fel y nodir yn Erthygl 5(1) Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae hefyd yn cynnwys mesurau diogelu ar gyfer rheiny sy’n destun y cynllun.

Mae’r llywodraeth yn gweithio ar god ymarfer y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid ar hyn o bryd; y mae wedi addo ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori cyhoeddus yn ddiweddarach eleni. Yn ogystal, bydd angen llunio nifer o reoliadau cyn y bydd modd gweithredu’r ddeddfwriaeth.

Hyd yma, nid yw’r llywodraeth wedi cyhoeddi dyddiad dod i rym ar gyfer y ddeddfwriaeth, ond mae’n bosibl y bydd hynny yn digwydd yn ystod gwanwyn 2020. Mae’r llywodraeth wedi cadarnhau y bydd Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn rhedeg ochr yn ochr â’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid am flwyddyn a bydd y rheiny sy’n destun Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn cael eu trosglwyddo i’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid mewn dull rheoledig.

BDGC Bil Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygiad)

Leave a Comment