CAM-DRIN ARIANNOL

Pauline Bird

Cam-drin ariannol yw’r term addefnyddir i ddisgrifio niweidio rhywun drwy gymryd neu eu hamddifadu o’u harian,eitemau neu eu heiddo. Nid yw cam-drin ariannol yndderbyniol, hyd yn oed os yw’n ymddangos ynddibwys. Mae cam-drin ariannol yn drosedd.

Mae oedolion yn ogystal â phlant mewn perygl o gamdriniaeth ariannol. Efallai nad yw oedolyn neu blentyn yn gallu amddiffyn ei hun rhag niwed neu ecsploetiaeth oherwydd anabledd dysgu neu gorfforol, nam ar y synhwyrau, eiddilwch neu broblem iechyd meddwl. Gall cam-drin ariannol ddigwydd ar unrhyw adeg yn unrhyw le, a gall ddigwydd i bobl o bob cefndir. Gall ddigwydd yng nghartref y person, mewn cartref gofal, canolfan ddydd, ysbyty neu mewn man cyhoeddus.
Gweithredu: Trafodwch eich pryderon gyda’r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol – Gwelwch wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gyfer y manylion cyswllt.

Leave a Comment