Taflen Ffeithiau

Pauline Bird

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio anffurfio organau cenhedlu benywod fel:

“Unrhyw weithdrefn sy’n cynnwys tynnu’r genitalia benywaidd allanol yn rhannol neu’n llwyr neu anaf arall i organau cenhedlu benywod am resymau nad ydynt yn rhai meddygol”.

Mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol a reoleiddir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac athrawon yng Nghymru a Lloegr roi gwybod i’r heddlu am achosion ‘hysbys’* o anffurfio organau cenhedlu benywod ymhlith merched o dan 18 oed.

DAETH Y DDYLETSWYDD I RYM AR 31 HYDREF 2015.

Gallwch gael help a chefnogaeth yn ddienw gan:

Llinell Gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yr NSPCC

ar: 0800 028 3550 neu drwy e-bost: fgmhelp@nspcc.org.uk

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar: 0808 80 10 800

neu drwy e-bost: info@livefearfreehelpline.wales

Llinell Gymorth BAWSO ar: 0800 731 8147

I gael rhagor o wybodaeth am Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, ewch i:

www.gov.uk/female-genital-mutilation-help-advice

Leave a Comment