Wythnos Ddiogelu 2017

Pauline Bird

Peidiwch â cholli allan! Cymerwch ran yn yr Wythnos Ddiogelu

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn Wythnos Ddiogelu Cymru Gyfan unwaith eto 13 – 17 Tachwedd a hoffem i’n partneriaid i gyd gymryd rhan.

Mae’r fenter ar y cyd hon yn cynnwys Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru ac fe’i defnyddir i hyrwyddo gweithgareddau diogelu ar draws y rhanbarth.

Rydym yn gwahodd sefydliadau i gymryd rhan drwy gynnal gweithgaredd. Gall gweithgareddau gynnwys unrhyw beth o ddigwyddiad hyfforddiant diogelu, bore coffi gyda rhieni neu ddiwrnod agored i’ch sefydliad, i rywbeth hyd yn oed yn fwy. Eich dewis chi ydyw!

Mae hwn yn gyfle gwych i sefydliadau arddangos y gwaith maen nhw’n ei wneud i amddiffyn a diogelu plant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd/ gofalwyr ar draws Gogledd Cymru, yn ogystal â chodi eu proffil.

Mae’n bosibl bod gennych weithgaredd wedi’i gynllunio eisoes yn ystod yr wythnos honno, os felly, hoffem glywed amdano er mwyn i ni allu ei hyrwyddo fel rhan o Wythnos Ddiogelu.

Anfonir deunyddiau hyrwyddo at bob sefydliad sy’n cymryd rhan, i’w defnyddio ar eu gwefan, neu ddeunyddiau wedi’u hargraffu, a bydd eich gweithgaredd yn cael ei gynnwys yn ein gweithgarwch hyrwyddo.

Os hoffech gymryd rhan, e-bost Regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk a rhowch fanylion eich digwyddiad/gweithgaredd i’w cynnwys ar amserlen Wythnos Ddiogelu. Helpwch ni i wneud Wythnos Ddiogelu hyd yn oed yn fwy na’r llynedd!

Leave a Comment