Wythnos Diogelu Cenedlaethol – 14-18 Tachwedd 2016

Pauline Bird

Updated on:

Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth ddiogelu oedolion a phlant diamddiffyn!

Os bydd rhywbeth yn ymddangos yn anghywir – mae’n debygol ei fod.

Yn ystod Wythnos Diogelu Cenedlaethol rydym am godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiogelu a sut y gall pawb ohonom chwarae rôl o ran cefnogi pobl ddiamddiffyn.

I nodi Wythnos Diogelu Genedlaethol, mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi trefnu digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ddiogelu oedolion.

Bydd arddangosfeydd gwybodaeth mewn lleoliadau ledled gogledd Cymru a fydd yn rhoi cyfle i ystod o asiantaethau ddarparu gwybodaeth am eu gwasanaethau a’u sefydliadau i aelodau o’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.

Yn ogystal, bydd Cynhadledd Diogelu Oedolion yn cael ei chynnal ar 17 Tachwedd a fydd yn canolbwyntio ar Adolygiadau Ymarfer Oedolion. Adolygiadau Ymarfer Oedolion yw’r broses sy’n adolygu’r camau y mae partneriaid, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, yr heddlu ac eraill, wedi eu cymryd i ddiogelu unigolion ac yn ein galluogi i ddysgu o’n profiadau. Gall yr argymhellion o adolygiadau o’r fath ddylanwadu ar sut rydym yn diogelu pobl ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol yn y dyfodol.

Dywedodd Neil Ayling, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru, “Rwy’n gobeithio y bydd yr amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau yn cynyddu gwybodaeth am faterion diogelu ymhlith y cyhoedd, er mwyn i bob un ohonom fod yn fwy ymwybodol o’r materion, a bod lles a diogelwch oedolion sydd mewn perygl yn cael eu diogelu.”

Leave a Comment