Wythnos Genedlaethol Diogelu

Pauline Bird

Updated on:

 ‘Mae diogelu yn fater i bawb’ yw’r neges allweddol i holl ddinasyddion Cymru wrth i Fyrddau Diogelu ar draws Cymru, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol baratoi i lansio Wythnos Ddiogelu Genedlaethol ym mis Tachwedd (dydd Lun 16 i ddydd Gwener 20).

Gan weithio gyda phartneriaid o’r maes iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, bwriad y Byrddau yw codi ymwybyddiaeth pawb o ystyr diogelu a’r nifer o sefyllfaoedd lle gall godi.

Byddwn yn cynnal cyfres o weithdai diogelu ar-lein yn ystod yr wythnos – bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hanfon yn yr wythnosau nesaf.

Leave a Comment