Dylai pob oedolyn 18 oed a drosodd allu byw bywyd heb fod ofn a heb ddioddef niwed a dylid parchu eu hawliau a’u dewisiadau.
Mae rhai oedolion yn llai abl i ddiogelu eu hunain nag eraill, ac mae rhai yn cael anhawster i gyfleu eu dymuniadau a’u teimladau. Gall hyn eu gwneud yn agored i gael eu cam-drin.
Mae Diogelu Oedolion yn cyfeirio at ddiogelu oedolyn ’sydd mewn perygl’ o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod.
“Oedolyn mewn perygl” yw oedolyn sydd:
Yn profi, neu mewn perygl o brofi camdriniaeth neu esgeulustod,
Angen gofal a chymorth (boed yr awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion hynny ai peidio), ac
O ganlyniad i’r anghenion hynny, ddim yn gallu amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu’r risg y byddant yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.
Os ydych yn amau fod rhywun mewn perygl uniongyrchol o ddioddef niwed, ffoniwch 999 a siaradwch â’r heddlu.
Os ydych wedi bod neu os ydych yn dal i ddioddef camdriniaeth, neu os ydych yn adnabod rhywun yr ydych yn amau eu bod yn cael eu cam-drin, cysylltwch â’ch awdurdod lleol – mae’r manylion cyswllt wedi’u rhestru ar y wefan.
Gweld Rhywbeth – Dweud Rhywbeth
Y cyfrinair ar gyfer lawrlwytho y fideo: safeguarding fedrwch lawrlwytho y fideo yma
Gellir dod o hyd i’r ffurflen atgyfeirio diogelu yma
Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ni waeth pwy ydynt neu beth yw eu hamgylchiadau.
Mae diogelu yn Fater i Bawb.
Mae cynllun sy’n sicrhau bod gwybodaeth bwysig ar gael i’r rhai hynny sy’n chwilio am bobl fregus sydd ar goll yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru.
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English